Adroddiad Blynyddol Grŵp Trawsbleidiol
2022 – 2023 (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Hydref 2022)
Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl
1. Aelodaeth y grŵp a deiliaid swyddi
Ken Skates AS
Jack Sargeant AS
Laura Anne Jones AS
Llyr Gruffydd AS
Jane Dodds AS
Ysgrifennydd:
Simon Jones (Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd, Mind Cymru)
Nia Sinclair (Cynorthwyydd Gweithredol i’r Cyfarwyddwr, Mind Cymru)
2. Cyfarfodydd blaenorol y grŵp
Cyfarfod 1 – Costau Byw
Dyddiad:(22 Hydref 2022 – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol)
Yn bresennol: (Cyfanswm o 26)
Ken Skates AS |
Cadeirydd ac AS De Clwyd |
Tom Giffard AS |
AS Gorllewin De Cymru |
Conor D’Arcy |
Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl |
Simon Jones |
Mind Cymru (ysgrifennydd) |
Sue O’Leary |
Mind Cymru |
George Watkins |
Mind Cymru |
Richard Jones |
Mental Health Matters |
James Radcliffe |
Platfform |
Sarah Hatherley |
Tîm Ymchwil y Senedd |
Chris Dunn |
Diverse Cymru |
Liz Williams |
RNIB |
Karan Chhabra |
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) |
Madelaine Phillips |
Conffederasiwn GIG Cymru |
Ross Walmsley |
NSPCC Cymru |
Naomi Stocks |
Clerc y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg |
Ellie Harwood |
Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG) |
Valerie Billingham |
Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn |
Linsey Imms |
TUC Cymru |
Rachel Lewis |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Angie Darlington |
Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru |
Laura Morgan |
Adferiad |
Euan Hails |
Adferiad |
Rhys Hughes |
Swyddfa Rhun ap Iorwerth AS |
Kate Liddell |
Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) |
Jess Williams |
Chwaraeon Cymru |
Nia Evans |
Mind Cymru |
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – Etholwyd Ken Skates AS yn Gadeirydd y grŵp yn dilyn enwebiad gan Simon Jones (Mind Cymru), ac eiliwyd yr enwebiad gan Tom Giffard AS. Enwebwyd Mind Cymru gan Ken Skates AS i weithredu yn rôl ysgrifenyddiaeth y Grŵp. Eiliwyd hyn gan Tom Giffard. Penodwyd Mind Cymru i ymgymryd â’r rôl ysgrifenyddiaeth.
Fe wnaeth Conor Darcy, Pennaeth Ymchwil a Pholisi, Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl roi cyflwyniad yn amlygu sut y mae iechyd meddwl gwael a chaledi ariannol yn gylch dieflig. Nododd fod gan Gymru fwlch o 40% mewn cyflogaeth rhwng y rhai sy'n nodi bod ganddynt broblem iechyd meddwl a'r rhai sydd heb broblem. Hefyd, mae gan 28% o bobl economaidd anweithgar yng Nghymru broblem iechyd meddwl. Mae hyn yn gwneud y risg i Gymru yn arbennig o amlwg yn sgil newidiadau economaidd sy’n effeithio’n aruthrol ar bobl sydd ag iechyd meddwl gwael.
Roedd y prif sylwadau yn cynnwys:
- Gofynnodd KS a yw'r ystadegau o ran gweithgarwch economaidd yn debyg i ranbarthau eraill yn y DU. Dywedodd CD y gwelir patrwm eang o ganlyniadau iechyd meddwl gwaeth mewn ardaloedd lle mae lefelau cyflogaeth is.
- Soniwyd bod yr undebau yn fannau cychwyn da i ddarganfod sut y mae sefydliadau sy'n cefnogi pobl ag iechyd meddwl gwael yn gweithio i wella'r ffordd y mae pobl yn cael eu cefnogi yn y gweithle.
- Cyfeiriwyd at gynllun peilot sydd yn ei gyfnod cynnar iawn yn Llundain sy’n edrych ar ymwreiddio cyngor ariannol mewn gwasanaethau iechyd meddwl (yn gysylltiedig ag IAPT), sy'n edrych ar ddarparu mwy o atgyfeiriadau at gymorth i gydnabod y gall pobl ei chael hi'n anodd gwneud y mwyaf o wasanaethau cyngor ariannol. Esiampl dda i Gymru ei dilyn. Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod pobl yn gwella'n gynt os oes cyllid ar gael. Cytunwyd y dylai rhagor o wybodaeth fod ar gael mewn practisau meddygon teulu am sut y gall problemau ariannol effeithio ar eich iechyd meddwl.
- Cydnabuwyd y rhwystrau i bobl hŷn rhag cael cymorth drwy wefannau ar-lein. Cydnabuwyd y broblem yn sgil sgamiau, ac y gall y sawl sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael fod yn fwy agored i ddioddef yn sgil y sgamiau hyn.
- Tynnwyd sylw at y gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Arian a ddarperir gan Adferiad. Mae'n cynnig pecyn o hyfforddiant i weithwyr proffesiynol.
- Hyd yn hyn mae gwaith sydd wedi ei wneud ar effaith straen ariannol wedi canolbwyntio'n bennaf ar brofiadau oedolion, ond soniodd plant a phobl ifanc fod aelodau'r teulu'n blaenoriaethu eu plant. Mae mwy o angen am lythrennedd ariannol wedi'i dargedu at blant a phobl ifanc. Mae cyswllt â Bil Sioned Williams AS ar sicrhau bod budd-daliadau’n cael eu defnyddio yng Nghymru yn rhoi cyfle i wella’r sefyllfa a defnyddio ein gwybodaeth am yr hyn sy’n helpu pobl i wneud y mwyaf o gymorth sydd ar gael.
- Cydnabuwyd bod pobl yn byw mewn ofn – dan straen a achosir gan gasglwyr dyledion ac effaith pobl yn ofni agor llythyrau i’r graddau nad ydynt yn eu hagor o gwbl. Gallai hyn yn drasig arwain at rywun yn cymryd ei fywyd ei hun.
Roedd cytundeb bod cydgysylltu gwasanaethau cyngor ariannol ac iechyd meddwl yn bwysig iawn a bod cyfleoedd i wneud mwy o fewn gwasanaethau cyflogaeth a chysylltu hyn â Llywodraeth Cymru.
Cyfarfod 2 – Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru – Gweledigaeth ar gyfer y Strategaeth Nesaf
Dyddiad: 24 Mai 2023
Yn bresennol: (Cyfanswm o 23)
Ken Skates (Cadeirydd) |
AS De Clwyd |
Simon Jones |
Mind Cymru |
George Watkins |
Mind Cymru |
Bethan Phillips |
Mind Cymru |
Chris Dunn |
Diverse Cymru |
Gwyneth Sweatman |
Ffederasiwn Busnesau Bach |
Dr Jen Daffin, |
Platfform |
Oliver Townsend |
Platfform |
Kathryn Morgan |
Shared Lives Plus |
Peter Martin |
Adferiad |
Annabelle Llanes Sierra |
CIPD |
Dr Jenny Burns |
Sefydliad Iechyd Meddwl yng Nghymru |
Lowri Wyn Jones |
Amser i Newid Cymru |
Nesta Lloyd-Jones |
Conffederasiwn GIG Cymru |
Elinor Puzey |
NSPCC Cymru |
Valerie Billingham |
Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn |
Naila Noori |
Coleg Brenhinol Therapi Iaith a Lleferydd |
Richard Jones |
Mental Health Matters |
Jonathan Davies |
|
Sarah Thomas |
|
Ceri Reed |
|
Martin Bell |
|
Euan Hails |
Adferiad |
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Croesawodd Simon Jones aelodau Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru i roi cyflwyniad ar y weledigaeth ar gyfer y strategaeth nesaf gan ystyried y newid yn y dirwedd allanol ers y strategaeth 10 mlynedd flaenorol, sef Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
Agorodd Dr Jen Daffin (Platfform) y drafodaeth yn cyfeirio at fodel Afon Kawa (o faes iechyd galwedigaethol) lle mae ein bywydau yn cael eu darlunio fel taith afon gyda rhwystrau gwahanol ar hyd y ffordd.
- Rydym eisiau newid yr amgylchedd ehangach y mae pobl yn byw ynddo (penderfynyddion cymdeithasol, hiliaeth ac ati).
- Rydym eisiau cael gwared ar greigiau (problemau) sydd gan bobl a’i gwneud yn haws trawsnewid eu sefyllfa.
- Rydym am greu dulliau i helpu i gael gwared ar broblemau (logiau). Rydyn ni eisiau gofod rhwng y sefyllfaoedd hyn.
Dywedodd Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru y dylid trafod y materion a ganlyn;
- Strategaeth drawslywodraethol newydd
- Canolbwyntio ar fesurau atal ac ymyrraeth gynnar
- Cydnabod stigma a sut y mae hyn yn chwarae rhan wrth effeithio ar fynediad pobl at help
- Dyma ddylai fod yn flaenoriaethau strategol cyffredinol:
1. Llywodraethu, mesur a thryloywder
2. Anghydraddoldebau iechyd meddwl a risg hunanladdiad
3. Plant a phobl ifanc
4. Arweinyddiaeth sy’n ystyried profiadau personol
5. Gweithlu
Mewn trafodaeth, nodwyd bod CIPD wedi gweithio yn darparu’r adnoddau sydd eu hangen ar gyflogwyr ar gyfer ymyrraeth gynnar, fel y gall rheolwyr sylwi pan fo gweithwyr yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.
Roedd peth pryder ynghylch pwysigrwydd mesurau atal, yn enwedig gyda’r galw mor uchel ar draws holl gyrff y GIG a’r argyfwng costau byw (a gyflwynwyd gan Nesta o Gonffederasiwn y GIG).
Cyfeiriodd Simon Jones at y newid diwylliannol a chysyniadol, gan symud o salwch i les. Mae’r ffocws yn tueddu i fod ar bethau ymarferol wrth siarad am benderfynyddion cymdeithasol. Mae angen gwella iechyd perthynol.
Daeth Ken â’r cyfarfod i ben a chynigiodd gyfraniadau pellach gan yr aelodau o ran testunau cyfarfodydd y dyfodol..
3. Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae'r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Darparodd Mind Cymru gefnogaeth ysgrifenyddol i'r grŵp trwy gydol y flwyddyn. Rhoddodd y Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl gyflwyniad yn y cyfarfod ym mis Hydref 2022 a rhoddodd Mind Cymru a Platfform gyflwyniadau ar ran Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru yng nghyfarfod mis Mai.
Mynychwyd y cyfarfodydd gan amrywiaeth o sefydliadau allanol, sydd wedi eu nodi ar y rhestrau presenoldeb uchod, a gymerodd ran yn y trafodaethau yn ystod y cyfarfod.
4. Datganiad Ariannol
Cynhaliwyd pob cyfarfod ar-lein drwy Teams, felly ni wnaed unrhyw daliad am ystafelloedd nac arlwyo.
Darparodd pob cyflwynydd eu hamser am ddim, felly dim tâl am ffioedd siaradwyr.
Mae hyn yn golygu nad oedd unrhyw drafodion ariannol ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol yn ystod 2021/22.